Ardal y Babanod
Ardal y Babanod
Rhai blynyddoedd yn ol, penderfynodd plant yr adran hon bod eisiau ardal iddyn nhw yn benodol i'w fwynhau. Gyda chymorth y cyngor ysgol lansiwyd prosiect i gasglu syniadau cynllunio.
Roedd y syniadau yn wych ac yn y pendraw roedd rhaid mynd ati i ddatblygu dwy ardal sef:- Y buarth chwarae a gardd synhwyraidd.
Ar y buarth mapiwyd safleoedd ardaloedd chwarae, adnoddau chwarae gweithgareddau a chysgod rhag y glaw a'r heulwen.
Yn yr ardal synhwyraidd, bu'r plant gyda chymorth y gymuned yn palu, plannu a gwneud offer a mosaic. Mae'r ardal synhwyraidd yn cynnwys gwahanol bethau i'w cyffwrdd a gardd bersawrus i'r plant.