Clwb Garddio
Datblygiad Tir yr Ysgol
Ymwelodd Mr Dewi Lewis, awdur llyfrau gwybodaeth megis, 'Enwau adar' - 1994, 'Nabod adar' - 1996 a 'Rhagor o enwau adar' - 2006 ag Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe i siarad a phlant yr adran Iau am wahanol mathau o adar. Cafodd y plant gyfle i weld yr adfar ar y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol ac i glywed can unigryw pob math. Ar diroedd yr ysgol, gosodwyd tai adar o amrywiol fathau:- rhai tal, rhai yn y coed, rhai masnachol a rhai wedi eu gwneud gartref gan y plant. Mae'r tai wedi eu gosod mewn lleoedd sy'n hawdd eu gweld o ffenestri'r ysgol. Er hynny, maent yn ddigon pell o'r ysgol ac ar gyrion y goedwig. Yn y Dosbarth Derbyn mae'r plant yn goaflu am eu pysgodyn aur, malwod mawr Affrica ac yn magu mwydod i'r adar yn ystod misoedd y Gaeaf.
Mae coedwig coed y Barli tu ol i'r ysgol ac mae'r plant yn manteisio ar y cyfle i arsylwi'r adar ac i geisio adnabod eu trydar.
Mae cyngor Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn gobeithio defnyddio amgylchedd yr ysgol i gyfoethogi cwricwlwm yr ysgol. Ers pan enillwyd y Faner Werdd mae'r ysgol wedi gosod targedau newydd iddi ei hun
Newydd / New!!
Clwb Garddio
Mewn cyfarfod cyngor ysgol bu'r cynrychiolwyr yn adrodd rhai o'r syniadau cafodd eu hawgrymu iddynt. Un o'r rhain oedd diddordeb mewn plannu a thyfu. Ar ol trafodaeth penderfynwyd sefydlu Clwb Garddio a fyddai'n agored i blant blwyddyn 3 hyd flwyddyn 6 - mewn trefn cylchdro. Ar ol tipyn o drefnu ac hysbysu llwyddwyd i ddechrau'r clwb:-
Daith tadau i godi'r tyweirch gwair.
Casglwyd planhigion, hadau, pridd ac offer wrth y rhieni, athrawon a'r gymuned.
Cafwyd gwirfoddolwyr o blith y rhieni sy'n llawn syniadau a brwdfrydedd.
Gwnaed cysylltiad a changen 'Women's Institute' Pontardawe.
Llwyddwyd i sicrhau grant ariannol i'r clwb.
Erbyn hyn gweithiodd y plant yn galed palu mawn i'r pridd a phlannu. Bu'r plant yn plannu potiau mawr a bach i harddu'r ysgol a phlannu mathau o fwyd a blodau mewn borderu.
Yr adborth wrth blant i'w bod y clwb yn lwyddiant ysgubol "Diolch i bawb".
Cliciwch isod