Y Blynyddoedd Cynnar
Y Blynyddoedd Cynnar
Dyma rhai o ferched y Blynyddoedd Cynnar yn gwisgo'r dillad traddodiadol yr oedd Mrs Sudd wedi dod gyda hi i'r ysgol. Roedd pawb wedi mwynhau clywed Mrs Sudd yn adrodd stori ac yna ymuno yn y dawnsio i'r miwsig traddodiadol o India.
Ym mis Mai aeth y dosbarth derbyn i Techniquest yng Nghaerdydd. Cawsom amser da yn chwarae gyda'r gweithgareddau i gyd. Yn y prynhawn fe welsom sioe 'O Dan y Mor'. Nol yn yr ysgol, buom yn chwarae gyda swigod a gweld beth sy'n gwneud swigod. Ydych chi'n gallu newid siap eich swigod?
Rydyn ni yn y Blynyddoedd Cynnar yn ffodus o gael Coed y Barli tu ol i'r ysgol. Mae'r plant yn hoffi mynd am dro i ddefnyddio eu synhwyrau. Mae'r coed yn brydferth iawn wrth newid trwy'r tymhorau.
|
Mae'r dosbarth Derbyn wedi bod yn dysgu am y bobl sy'n ein helpu ni. Yn yr Orsaf Dan ym Mhontardawe gwelodd y plant ddynion tan wrth eu gwaith. Dysgodd bawb bod y rhif ffon 999 yn bwysig a bod rhaid cael Larwm Mwg yn y ty.
Dyma'r dosbarth Derbyn yn clywed stori draddodiadol o Affrica gan Mr Crow ym Mhlantasia, Abertawe. Wedyn bu'r plant yn gwneud offeryn syml Swn y Glaw. Roedd pawb wedi dwlu.
Dyma ddosbarth Derbyn ym Mharc Margam. Roedd pawb wedi mwynhau pysgota am drychfolid yn y pwll. Roedd y plant wedi chwarae llawer o gemau sy'n ein dysgu fel i ofalu am yr amgylchedd. Nol yn yr ysgol, yng nghornel trychfilod y Blynyddoedd Cynnar roedd pawb wedi dod o hyd i wahanol trychfilod.
|
The Big Toddle. Dyma blant y Blynyddoedd Cynnar yn gwneud taith gerdded noddedig i godi arian at elusen Dr Barnado's. Roedd y tywydd yn sych a phawb mewn hwyliau da, a phob tedi yn awyddus i gerdded ym mhell. Yn wir i chi gwnaeth y plant lwyddo i gerdded 9 gwaith o gwmpas y Gra Coch. Da iawn bawb!!
Bydd yn ofalus mae Pori' Pry Copyn yn dod!
| Ar ol bod ym Mhargam roedd rhaid clywed stori Bili Broga. Dyma Bili yn ei bwll yn eistedd ar ei garreg. Rydyn ni wedi gweld penbyliaid yn tyfu'n frogaod hefyd.
|