Yr Eco-God
Yr Eco-Gôd
Mae'r Rhaglen Eco-Sgolion yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe wedi gwneud ymdrechion mawr tuag at gynnal a helpu'r amgylchfyd. Gydag arweiniad y cyngor ysgol ac athrawon yr ysgol mae'r plant a staff yr ysgol nawr yn:
Arbed egni a dwr.
Bwyta'n iach.
Ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yr ysgol.
Datblygu Tir yr ysgol.
Cliciwch yma er mwyn ymweld a
syniadau am gadw Cymru'n Daclus!
Mae'r ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda'u hymdrechion wrth ennill tystystgrifau efydd ac arian.
Rydym medru bod yn ffodus i ennill y faner Werdd. Edrychwch am y faner yn cyhwfan yn urddasol. Mae'n siwr eich bod wedi ei gweld!
Gorffennaf 2007
Cyngor Ysgol yn derbyn tlws am fod yn rhan o'Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru'
Plant yn harddu'r tir yr ysgol - 2006
Gwnewch adduned hwyr ar gyfer y flwyddyn ysgol
Gwnewch adduned mis Medi 2007 yn gynnar gan addunedu i wneud eich ysgol ychydig yn fwy gwyrdd drwy sicrhau bod amser cinio'n ddiwastraff neu drwy roi hen wisgoedd ysgol i'w hailgylchu. Mae'r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chadwch Gymru'n Daclus ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae blwyddyn ysgol newydd ar fin dechrau ym Medi. Dyma restr o addunedau blwyddyn ysgol newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe sydd yn awyddus u wneud eu rhan:
ØDidoli cynnwys bad ysgol y llynedd - mae llawer o bethau yno gellir eu hailgylchu, megishen ffolderi a llyfrau ysgrifennu.
ØGellir defnyddio gwisg ysgol sydd wedi mynd yn fach ar gyfer brodyr neu chwiorydd llai neu eu cyflwyno i siop elusen neu eu rhoi mewn banc dillad i'w hailgylchu.
Ø Chwiliwch am eitemau a wnaed o ddeunydd wedi ei ailgylchu. Mae ystod eand o nwyddaufforddiadwy ar gael o bapur, pensiliau, casys pensiliau a matiau llygoden.
Ø Gorchuddiwch y llyfrau a hen bapur lapio neu bapur wal er mwyn eu cadw mewn cyflwr da ac ailddefnyddio gwastraff.
Bwytewch ginio diwastraff - defnyddiwch focs bwyd a chynwysyddion y gellir eu
hailddefnyddio, yn hytrach na bagiau a fydd yn cael eu taflu. Rhowch y diodydd mewn poteli
a fydd yn cael eu hailddefnyddio ac ailgylchwch gymaint o'r sbwriel ag y bo modd.
Defnyddir rhestrau post electronig i hysbysu'r rhieni am unrhyw ddigwyddiadau, yn
hytrach na defnyddio papur. Defnyddia'r athrawon ffyn USB yn hytrach na phentyrrau o
ddisgiau meddal.
Mae ysgolion yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff, yn arbennig papur a chardbord. Rydyn
ni yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn ceisio annog athrawon a disgyblion i ailgylchu
yn yr ysgol - ond mae'n bwysig sicrhau nad yw'r gwaith da'n dod i ben yn yr ysgol. Mae
Cyngor Ysgol Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn annog y disgyblion i hyfforddi eu
teuluoedd adref.
Manylion Cyngor
Mae'r Cyngor Ysgol yn cynnwys y Pennaeth, athrawon, clerc yr ysgol, y gofalwr, rhieni, aelodau o'r gymuned ac, yn bennaf oll, disgyblion. Maent yn rhan weithredol yn y cyfarfod ac mae'r cadeirydd a'r ysgrifennydd yn cadw cofnodion. Mae'r plant i gyd yn cael amser cylch yn wythnosol i rannu syniadau a gwneud sylwadau am yr eitemau yr adroddwyd amdanynt gan Gyngor yr ysgol.
Mae'r plant yn mynd a'r neges am bwysigrwydd yr amgylchedd gartref ac yn lledaenu'r neges i rieni, gofalwyr a ffrindiau sydd, yn eu tro, yn cychwyn ailgylchu nwyddau yn y cartref a dod yn fwy ymwybodol o'r angen am arbed ynni.
Tasg a wneud gartref oedd llunio'r Eco-god a logo. Mae'r Eco-god yn weladwy o gwmpas yr ysgol.
Arbed Egni
Rydyn yn ailgylchu papur gwyn, ringos a sbwriel bychain yn ein gweithgareddau Celf a Technoleg. Mae'r rhieni yn ymwybodol iawn o'r angen i gadw cyflenwad cyson. Mae'r Cyngor Ysgol wedi trefnu gwiriadau a chynnal gwiriadau ynni a bydd swyddogion trydan yn siarad am eu profiad yn wythnosol yn y gwasanaeth. Mae pawb yn mwynhau codi cywilydd ar y dosbarthiadau sy'n euog o beidio diffodd eu golau a sgriniau cyfrifiadur "PAWB OND YR EUOG WRTH GWRS".
Mae gennym gasgen ddwr i ddal dwr glaw ac mae'r plant yn ei ddefnyddio i ddyfrio'r ardd a'r potiau.
Cliciwch isod i ddarllen am ein clwb newydd!!!
Newydd!!!! Clwb Garddio'r ysgol