Ysgol Iachus
Bwyta'n Iach
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn ysgol iach ers 12 mlynedd. Cynhyrchwyd polisi gwastraff a gwaherddir melysion a chreision amser chwarae'r bore. Mae'r disgyblion yn gweithredu fel swyddogion gwastraff ac mae'r gwastraff yn cael ei ailgylchu neu ei aildefnyddio. Mae ein bwydlen ginio'n un iach a cheir 'egwyl ffrwythau' bob bore.
Siop Ffrwythau'r ysgol
Mae'r siop ffrwythau wedi agor yn yr ysgol i hybu bwyta'n iach. Rydym yn gwerthu nifer helaeth o ffrwythau gan gynnwys afalau gwyrdd a coch a tangerines!! Mae'r siop ar agor pob amser egwyl. Mae'r siop yng nghofal plant blwyddyn 5 a 6.
Mae menter diweddara aelodau y Cyngor Ysgol wedi profi i fod yn lwyddiant ysgubol. Mae nifer fawr o'r plant yn prynu poteli o ddwr yn ddyddiol am 20c. The Council's latest venture has been a huge success. Several children are buying bottles water on a daily basis to promote healthy living.
Llwybr Teithio Newydd i'r Ysgol - 2007
Yn ddiweddar cafodd ein cyngor ysgol ac 'sgolion iach syniad wych i adeiladu llwybr i'r ysgol ar gyfer sieclo a cherdded yn ddiogel. Da iawn chi am eich waith caled.
Yn dilyn llwyddiant adeiladu llwybr diogel i'r ysgol, rydym wedi parahu a'n gwaith caled i adeiladu cysgodfan ar fuarth y Babanod. Ymlaen gyda'r gwaith da i wella tir yr ysgol.
Cerdded i'r Ysgol
Yn hybu iechyd a diogelwch ein plant rydym yn darparu cotiau llachar pan rydym yn cerdded o'r ysgol. Dyma lun ohonynt wrth gerdded i'r pwll nofio.
To ensure the safety of each child we provide florescent jackets for children when walking to/from the school. Here's a picture of them walking to the local swimming pool.